Asiantaeth Rhestr Cyflogi – EXPRESS ACCOUNTS

want help with your accounts?

Gwasanaethau >> Asiantaeth Rhestr Gyflogau – EXPRESS ACCOUNTS

Mae’r Rhestr Gyflogau yn gallu hawlio llawer o amser cyflogwyr. Mae’n gynyddol gymhleth. Mae’n cynnwys nifer o ostyngiadau, er enghraifft gostyngiadau benthyciadau i fyfyrwyr, atodion i enillion a thaliadau mamolaeth a thadolaeth.

Hefyd erbyn y flwyddyn 2009/2010, bydd pob busnes yn gorfod cyflwyno ffurflenni PAYE ar-lein i H.M.R.C., oherwydd bod cyflwyniadau papur yn cael eu dileu. Mae Cyllid Gwladol yn rhoi taliadau anogaeth di-dreth i’r cyflogwyr hynny sy’n defnyddio’r we i gyflwyno gwybodaeth ar-lein cyn hynny. Wrth ddefnyddio Rhestr Gyflogau Express Accounts i wneud hyn ar eu rhan, gall busnesau fanteisio ddwywaith, hynny yw drwy arbed amser, a thrwy dderbyn taliadau anogaeth di-dreth.

Gall cyflogwyr elwa drwy beidio â chael unrhyw waith papur yn ymwneud â hyn, ac mae’r holl ohebiaeth rhyngddynt a Chyllid Gwladol yn cael ei gwneud ar-lein drwy’r asiantaeth. Heblaw am y ffordd gonfensiynol, gall cyflogwyr ddewis talu cyflogau drwy fancio ar-lein, â’r gweithwyr yn derbyn papur cyflog ar e-bost.

Site designed by NetBop Technologies